
DYSGU I SYRFFIO
PROFIAD BYTHGOFIADWY


LEARNING TO SURF IN A SAFE AND FUN ENVIRONMENT
Mae ein hyfforddwyr arbenigol yn broffesiynol, cyfeillgar, croesawgar ac oll wedi cymhwyso gyda RLSS neu SLSGB, Gwobrau Achubwyr Bywyd Traeth/Hyfforddwyr Diogelwch ac Achub Syrffio a gwobrau hyfforddwyr y Gymdeithas Syrffio Ryngwladol (ISA).
Mae’r gwersi hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddiogelwch hanfodol, i’ch helpu i gadw’n ddiogel yn ystod ymweliadau â’r arfordir yn y dyfodol.
Rydym yn ymfalchïo mewn cyflwyno gwersi o’r ansawdd uchaf.
Rydym yn teilwra pob gwers ar gyfer anghenion, nodau, dyheadau, oedran a gallu pawb.
Dyfarnwyd safon Rhuban INSPORT i ni gan Chwaraeon Anabledd Cymru ac rydym yn cynnig gweithgareddau cwbl gynhwysol, ar gyfer y rhai ag anableddau.


*Lleiaf oedran saith. Gallu nofio yn hyderus.
Cyflwyniad trylwyr a manwl i syrffio.
Unwaith y byddwch ar y traeth byddwch yn cael sesiwn briffio diogelwch drylwyr, sy'n cynnwys diogelwch ar y traeth, astell feiston, diogelwch dŵr, adnabod peryglon, (cerrynt terfol) a phrotocolau brys.
Ymarfer cynhesu a syrffio yn gorwedd ar eich bol ar y traeth. Hyd 15 - 20 munud.
Yna mae'n amser mynd i mewn i’r dŵr ac ymarfer. Hyd tua 10 munud.
Yn ôl i'r traeth i ddysgu sut i badlo, sefyll i fyny a syrffio dros donnau ac yna rhoi cynnig arni ar dir sych. Hyd 10 - 15 munud.
Dyma wedyn brif ran y wers a dreulir yn y môr dan arweiniad eich hyfforddwr arbenigol.
Hyd tua 2 awr. £40.00 y pen.
GWERSI DWY AWR CYNHWYAFAWR I DDECHREUWYR
Booking fee applies, See our Terms and Conditions for details


*Lleiaf oedran saith. Gallu nofio yn hydeus.
Sesiwn flasu fer yn cynnig cyflwyniad i gamp anhygoel syrffio.
Ar ôl gwisgo'ch dillad a chael eich cyflwyno i'ch hyfforddwr, byddwch yn cael sesiwn briffio diogelwch drylwyr ac ymarfer traeth o ddal tonnau tra’n gorwedd ar eich bol, cyn mynd allan i'r môr. Ar ôl peth amser i ymarfer, byddwn yn dychwelyd i'r traeth i ddysgu sut i fynd ar eich traed a syrffio dros donnau yn sefyll i fyny.
Byddwn wedyn yn dychwelyd i’r dŵr i roi cynnig arni.
Pris: £29 y pen.
Hyd y wers: 1 awr 15 munud.
SESIYNAU BLASU SYRFFIO I DDECHREUWYR
Booking fee applies, See our Terms and Conditions for details


Archebwch, talwch a chwblhewch ffurflenni cyn-wers mewn munud neu ddwy yn unig.
Yn syml, defnyddiwch y botwm 'Archebwch Nawr' o unrhyw sgrin neu pwyswch y botwm isod i archebu gwers syrffio i ddechreuwyr.
Ar gyfer grwpiau mawr rydym yn argymell bod gennych holl gyfeiriadau e-bost yr oedolion wrth law, fel y gall y system anfon y ddogfen cyn-wers angenrheidiol atynt.
ARCHBU AR-LEIN YN HAWDD


POB OFFER YN CYNNWYS
Mae’r holl offer yn gynwysedig yn ein holl wersi, (dim costau llogi ychwanegol!). Astell feiston, siwt wlyb gaeaf y DU gynnes, esgidiau ac ar gyfer y misoedd oerach, menig a chwfl.




© 2009 - 2026 AberAdventures LTD.








